Cwynodd Miss A am drefniadau rheoli gwastraff Cyngor Caerdydd. Cwynodd fod y Cyngor wedi methu casglu ei gwastraff yn gyson.
Cwynodd Miss A hefyd fod yr esboniad a roddwyd gan y Cyngor, sef bod cerbydau wedi’u parcio yn rhwystro’r lori sbwriel rhag cael mynediad, wedi methu cydnabod mai cyfrifoldeb y Cyngor yw rheoli traffig a chymryd camau gorfodi pan fydd rhwystrau.
Pan ofynnodd yr Ombwdsmon am sylwadau’r Cyngor am y pryderon a godwyd, cynigiodd y Cyngor gyhoeddi ymateb llawnach, gan gydlynu’r ateb hwnnw â’i wasanaeth Priffyrdd, Tai a Gwastraff. Roedd hyn gan fod y Cyngor wedi monitro sawl casgliad pellach a gollwyd oherwydd bod cerbydau’n rhwystro’i lori sbwriel rhag cael mynediad.
Yn hytrach nag ymchwilio i’r gŵyn, gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor gyhoeddi ei ymateb pellach o fewn 3 wythnos, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.