Cwynodd Mrs A ei bod wedi bod yn cael problemau gyda’r gwasanaeth cymorth casglu gwastraff a ddarperir gan y Cyngor. Dywedodd bod y Cyngor wedi methu ei chasgliadau gwastraff dro ar ôl tro, er iddi gyflwyno cwynion i’r Cyngor am y mater hwn.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs A wedi cysylltu â’r Cyngor sawl gwaith ynghylch methu casgliadau gwastraff, ond bod y broblem wedi parhau. Roedd hyn wedi achosi anhwylustod a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd y Cyngor i gyflwyno mesurau ychwanegol i sicrhau bod gwastraff o gartref Mrs A yn cael ei gasglu. Cytunodd hefyd, ar ôl 4 mis, y byddai’n archwilio effeithiolrwydd y gwasanaeth cymorth casglu gwastraff a ddarperir i Mrs A ac yn rhoi gwybod i’r Ombwdsmon am ganlyniad yr archwiliad hwnnw.