Cwynodd Mr am y ffordd roedd Cyngor Caerdydd yn rheoli ei wastraff. Cwynodd am nad oedd gwasanaeth casglu sbwriel â Lifft Cymorth y Cyngor yn aml iawn yn casglu ei wastraff. Cwynodd Mr B hefyd fod y Cyngor, yn dilyn ymchwiliad i’w gŵyn, wedi newid ei bwynt casglu sbwriel mewn ffordd amhriodol heb ystyriaeth ddigonol i’w anghenion.
Canfu’r ymchwiliad fod methiant yn rheolaidd i gasglu gwastraff Mr B o’r pwynt casglu y cytunwyd arno. Cadarnhawyd y gŵyn hon.
Canfuwyd fod y Cyngor wedi rhoi ystyriaeth briodol i anghenion Mr B pan benderfynodd symud ei bwynt casglu. Ni chadarnhawyd y gŵyn hon.
Fodd bynnag, pe bai’r Cyngor wedi rhoi sylw’n gynharach i’r problemau gyda’r ffordd gefn, gallai hynny fod wedi golygu na fyddai Mr B wedi profi nifer o flynyddoedd lle nad oedd ei wastraff yn cael ei gasglu, rhwystredigaeth a thrallod.
Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mr B am y casgliadau gwastraff a fethwyd, am beidio rhoi sylw i achos y broblem yn gynharach ac am y rhwystredigaeth, dryswch a’r trallod a achoswyd iddo. Cytunodd i atgoffa staff perthnasol bod modd cynnig cyfeiriad e-bost pwrpasol ac un pwynt casglu i breswylwyr sy’n profi anawsterau gyda’r gwasanaeth Lifft â Chymorth. Cytunodd hefyd i adolygu sut yr oedd wedi delio â chŵyn Mr B i ganfod gwersi y gellid eu dysgu.