Dyddiad yr Adroddiad

09/01/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202406614

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B fod Cyngor Caerdydd wedi methu ag ateb ei gwestiynau yn ei ymateb i gŵyn.

 

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi mynd i’r afael â chwestiynau Mr B yn ei ymateb, a achosodd rwystredigaeth ac anghyfleustra iddo. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr B am beidio â mynd i’r afael â’r cwestiynau, ac i ddarparu ymateb sy’n mynd i’r afael â’r holl gwestiynau o fewn 4 wythnos.