Dyddiad yr Adroddiad

18/12/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202406330

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr P nad oedd criw sbwriel ac ailgylchu Cyngor Caerdydd wedi dychwelyd ei fagiau bin i’r man casglu cywir ar ddiwrnodau casglu.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor yn ymwybodol bod hwn yn fater parhaus i Mr P. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr P. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ysgrifennu at Mr P, o fewn pythefnos, i ymddiheuro ac esbonio’r camau y bydd yn eu cymryd i ddatrys y mater, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.