Cwynodd Ms A am ei bod yn anhapus â’r problemau parhaus roedd hi’n eu cael â chynllun cymorth casglu gwastraff Cyngor Caerdydd.
Cyflwynodd Ms A fideo i gefnogi ei chŵyn. Canfu’r Ombwdsmon fod gwastraff Ms A naill ai wedi’i gasglu’n rhannol neu heb ei gasglu o gwbl ar 7 achlysur rhwng 24 Hydref 2024 a 5 Rhagfyr 2024, er gwaethaf sicrwydd y Cyngor bod camau wedi’u cymryd i ddatrys y problemau.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor roi ymddiheuriad i Ms A, esboniad o’r camau a gymerwyd i sicrhau bod ei gwastraff yn cael ei gasglu’n gywir ac iawndal ariannol o £100 am yr anhwylustod a achoswyd, o fewn 4 wythnos, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.