Cwynodd Mr A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu â chasglu ei wastraff cartref yn gyson am dros ddeuddeg mis. Dywedodd Mr A fod diffyg casglu yn parhau i fod yn broblem gyda’r cynllun codi â chymorth a hebddo, ac mewn dau eiddo gwahanol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod cofnodion y Cyngor yn dangos ei fod wedi uwchgyfeirio pryderon diweddaraf Mr A i’w hymchwilio, ond nad oedd wedi rhoi ymateb ffurfiol i Mr A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr A am iddo orfod cysylltu â’r Ombwdsmon, cynnig cyfle i Mr A drafod ei bryderon presennol ynghylch casglu gwastraff, ymchwilio i bryderon Mr A, a rhoi ymateb ffurfiol yn egluro unrhyw faterion a nodwyd ac unrhyw gamau gweithredu arfaethedig i unioni’r materion, o fewn mis.