Dyddiad yr Adroddiad

04/21/2023

Achos yn Erbyn

Heatherwood Court

Pwnc

Cartrefi gofal

Cyfeirnod Achos

202206495

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms am ofal ei phartner, Mr B yn Heatherwood Court. Cwynodd ei fod yn bryderus am yr amser y bu yno wrth aros am lety arbenigol parhaol gan ddweud ei fod yn cael ei gadw’n afresymol. Cwynodd hefyd nad oedd y gofal a ddarparwyd iddo’n ddigonol ar gyfer ei anghenion, gan gynnwys peidio â darparu bwyd a dŵr potel yn unol â’i anghenion dietegol, peidio â rhoi cynfasau glân iddo, nad oedd yr ardal ddim yn addas i gadeiriau olwyn, nad oedd polisi ar gyfer cadeiriau olwyn, na chafodd driniaeth i gefnogi ei broses adsefydlu fel ffisiotherapi niwrolegol a chael ei gyfeirio at y tîm poen.

Er bod Heatherwood Court wedi trafod pryderon Mr B gydag ef ar lafar, dywedodd yr Ombwdsmon na roddwyd ymateb ysgrifenedig ffurfiol iddo. Felly cytunodd i wneud hyn o fewn 3 wythnos.