Bu i Mrs A gwyno am y ffioedd a godwyd gan y Cartref Gofal am ofal ei thad. Roedd y Cartref Gofal wedi codi tâl o’r dyddiad y cafodd y lleoliad ei dderbyn, yn hytrach na’r dyddiad y cafodd ei thad ei dderbyn i’r cartref. Dywedodd Mrs A na chafodd wybod y byddai’r ffioedd yn cael eu codi o’r dyddiad y cafodd y lleoliad ei dderbyn, a’i bod yn teimlo iddi gael ei thrin yn annheg.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y ddogfennaeth a ddarparwyd i Mrs A gan y Cartref Gofal yn glir ac nad oedd yn cadarnhau o ba ddyddiad y byddai’r ffioedd yn cael eu codi. Penderfynodd ddatrys y g?yn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cartref Gofal gytuno i hepgor y ffi a godwyd o’r dyddiad y cafodd y lleoliad ei dderbyn a’i newid i’r dyddiad y cafodd tad yr achwynydd ei dderbyn i’r cartref, ac i ddarparu gohebiaeth wedi’i diweddaru yn uniongyrchol i Mrs A i gadarnhau hyn cyn pen pythefnos. Cytunodd y Cartref Gofal i wneud hyn. Yn ogystal, cytunodd y Cartref Gofal i fynd ati cyn pen pedair wythnos i adolygu’r ddogfennaeth a ddarperir i bob preswylydd newydd ynghylch ffioedd ac i ddiwygio agweddau ar y contract a’r polisi sy’n ymwneud â ffioedd i sicrhau eu bod yn glir o ran pa bryd y bydd ffioedd yn daladwy.