Cwynodd Mrs A am sut y cyflwynodd Cyngor Sir Ceredigion ddyledion iddi, mewn dadansoddiad a gyhoeddwyd ganddo ac yn ystod trefn gwyno’r Cyngor.
Canfu’r Ombwdsmon fod anghysondebau yn y ffigurau a gyflwynwyd gan y Cyngor a thynnodd sylw’r Cyngor at y rhain. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mrs A a phenderfynodd setlo’r achos heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd wneud y canlynol o fewn 1 mis, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny:
- Ymddiheuro i Mrs A am yr anghywirdebau yn y dadansoddiad o’r hyn oedd arni’n ddyledus i’r cyngor.
- Ailgyhoeddi’r dadansoddiad dyddiedig 20 Medi 2024, gan gywiro’r anghywirdebau ynddo.