Dyddiad yr Adroddiad

21/05/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Budd-daliadau Eraill

Cyfeirnod Achos

202408790

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Ms A gwyno bod y Cyngor wedi methu ag asesu’n gywir ei hatebolrwydd i dalu’r dreth gyngor na’i budd-dal gostyngiad y dreth gyngor. Roedd hefyd yn pryderu bod y Cyngor wedi methu ag asesu’n gywir ei chymhwysedd i gael Prydau Ysgol am Ddim a Grant Hanfodion Ysgol. Dywedodd fod y Cyngor wedi methu â gwneud y pethau hyn dros gyfnod o bum mlynedd.

Canfu’r asesiad fod pryderon Ms A, fel yr oeddent yn berthnasol i’r cyfnod cyn mis Medi 2023, y tu hwnt i’r terfynau amser ar gyfer y swyddfa hon. Roedd ei phryderon ynghylch atebolrwydd i dalu’r dreth gyngor a budd-dal gostyngiad y dreth gyngor y tu hwnt i awdurdodaeth yr Ombwdsmon.

Canfu’r asesiad fod y Cyngor wedi methu ag asesu cymhwysedd i gael Prydau Ysgol am Ddim pan fu i Ms A wneud cais i gael gostyngiad y dreth gyngor ym mis Ionawr 2024. Yn ddiweddarach, cadarnhaodd y Cyngor fod ei mab wedi bod yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim, wedi’u hôl-ddyddio i fis Ionawr 2024. Roedd hefyd yn bosibl y gallai fod wedi bod yn gymwys i’w cael o fis Hydref 2023 ymlaen. Am na fu i’r Cyngor bennu cymhwysedd i gael Prydau Ysgol am Ddim yn brydlon, roedd Ms A wedi colli’r cyfle i gael Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-2024.

Yn hytrach nag ymchwilio i’r gŵyn hon, bu i’r Ombwdsmon sicrhau bod y Cyngor yn cytuno i ddatrys pryderon Ms A. Cytunodd i asesu’n gywir am ba hyd yr oedd wedi bod yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim ac i gynnig ad-dalu Ms A am y taliadau a wnaed ganddi yn ystod y cyfnod hwnnw. Cytunodd hefyd i asesu’n ôl-weithredol ei chymhwysedd i gael Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer 2023/24, i gynnig iddi’r swm y byddai wedi bod yn gymwys i’w gael, ac i gynnig taliad o £100 iddi am ei hamser ac am y drafferth yr aeth iddi.