Dyddiad yr Adroddiad

06/26/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Budd-daliadau Eraill

Cyfeirnod Achos

202301908

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr L fod Cyngor Bro Morgannwg wedi methu â dilyn ei weithdrefn gwyno ac nad oedd wedi mynd i’r afael â’i holl bryderon yn ei ymateb i gŵyn iddo.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y Cyngor wedi rhoi gwybodaeth i Mr L am ei weithdrefn gwyno nac wedi ymateb i’r holl bryderon a godwyd. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth a dryswch i Mr L.

Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor a chafodd ei gytundeb i ddechrau ymchwiliad cam 2, i ddarparu ymateb i gŵyn i Mr L a thalu £150 o fewn 30 diwrnod gwaith i Mr L am ei amser a’i drafferth. Cytunodd y Cyngor hefyd i gyfleu ei rwymedigaeth i hysbysu achwynwyr am ei weithdrefn gwyno fewnol.