Cwynodd Mrs X ynghylch yr oedi sylweddol gan Trivallis i gwblhau’r gwaith / ailosod y ffenestri.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod wrth gwblhau’r gwaith hwn a dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai i, o fewn 4 wythnos, gynnig ymddiheuriad ac esboniad i Mrs X am yr oedi sylweddol wrth gwblhau’r gwaith, sicrhau bod gosod y cyfyngiadau ffenestri yn cael ei gwblhau a chynnig taliad iawndal ariannol o £250 i gydnabod yr amser a’r drafferth a’r oedi sylweddol.