Dyddiad yr Adroddiad

27/10/2025

Achos yn Erbyn

Tai Tarian

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202503132

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Tai Tarian wedi methu â gwneud atgyweiriadau a gwelliannau y cytunwyd arnynt yn ei chartref. Dywedodd Ms A fod yr ardd yn anwastad ac yn beryglus, mai dim ond yn rhannol yr oedd ffin y ffens wedi’i chwblhau a bod gwaith ar y dreif wedi’i ohirio.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas Tai wedi ymchwilio i gŵyn Ms A ac wedi cytuno i wneud gwaith ym mis Mai 2025. Er bod rhywfaint o waith wedi’i wneud, bu oedi. Roedd Ms A yn anfodlon â’r gwaith a oedd wedi’i wneud a chododd bryderon pellach. Roedd Ms A wedi cael ei hanhwyluso gan fethiant y Gymdeithas Tai i fynd i’r afael â materion yn ddigonol, a achosodd straen, pryder a rhwystredigaeth iddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Gymdeithas Tai, o fewn 4 wythnos, i gynnal ymweliad â’r safle i archwilio’r gerddi a’r ffens ffin, nodi rhestr o faterion heb eu datrys a rhoi amserlen i Ms A o unrhyw waith i’w wneud. Cytunodd hefyd i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms A am yr oedi wrth fynd i’r afael â’i phryderon a gwneud gwaith angenrheidiol.