Dyddiad yr Adroddiad

25/11/2025

Achos yn Erbyn

Tai o'r Cymoedd i'r Arfordir

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202505478

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A wrth Valleys to Coast Housing am gyllyll, hoelion, pwysau a gwastraff a oedd wedi’u claddu yn y glaswellt yn ei gardd, a dywedodd ei bod wedi achosi pla o lygod mawr ac amgylchedd anniogel i’w phlant iau.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas wedi mynd i’r afael â’r mater hwn yn briodol. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss A oherwydd nad oedd hi a’i phlant yn gallu defnyddio’r
ardd a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i, o fewn 4 wythnos, anfon llythyr at Miss A sy’n nodi cronoleg y camau y mae wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’i phryderon ac unioni’r problemau gyda’i gardd, darparu copïau o unrhyw adroddiadau arolwg/arolygu perthnasol, nodi
amserlen ar gyfer y gwaith arfaethedig i’w wneud, nodi’r amser amcangyfrifedig y bydd y gwaith yn ei gymryd a’r dyddiad cychwyn arfaethedig, a nodi’r hyn sy’n ofynnol gan Miss A o ran cyswllt a mynediad i’r ardd.