Cwynodd Mr A am oedi wrth gwblhau atgyweiriadau i’w eiddo a phenderfyniad a wnaed i gyfyngu ar gyswllt â’r Gymdeithas Tai.
Canfu’r asesiad fod y penderfyniad i gyfyngu ar gyswllt Mr A wedi’i wneud yn unol â’r polisi perthnasol ac un yr oedd gan y Gymdeithas Tai hawl dod iddo. Fodd bynnag, derbyniodd y Gymdeithas Tai fod oedi wedi bod wrth gwblhau atgyweiriadau i eiddo Mr A.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai i ymddiheuro i Mr A am yr oedi wrth gwblhau atgyweiriadau a chynnig taliad o £150 i gydnabod hyn. Cytunodd y Gymdeithas Tai i gymryd y camau hyn o fewn 1 mis i benderfyniad yr Ombwdsmon.