Dyddiad yr Adroddiad

17/10/2025

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Merthyr Tudful Cyf.

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202503767

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Cymdeithas Tai Merthyr Tudful Cyf wedi methu â mynd i’r afael â mieri a phlanhigion clymog oedd wedi gordyfu mewn gardd gyfagos, a oedd yn eiddo i’r Gymdeithas Tai.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas Tai wedi torri’r gwrych perimedr sy’n rhedeg ar hyd y ffin rhwng y ddau eiddo, fod mieri a phlanhigion clymog yn parhau i fod yn broblem. Er i un driniaeth ar gyfer planhigion clymog gael ei chynnal yn 2024, nid oedd y driniaeth ddilynol wedi’i chynnal. Roedd hyn wedi arwain at ddifrod i’r ffens rhwng yr eiddo. Roedd Ms A wedi cael ei hanhwyluso gan fethiant y sefydliad i fynd i’r afael â phroblemau yn yr ardd gyfagos, a achosodd rwystredigaeth. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Gymdeithas Tai, o fewn pedair wythnos, i gynnal ymweliad â’r safle i archwilio’r ardd a’r ffens ffin, nodi rhestr o faterion heb eu datrys a rhoi amserlen i Ms A o unrhyw waith i’w wneud. Cytunodd hefyd i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Ms A am yr oedi wrth fynd i’r afael â’i phryderon.