Cwynodd Ms X nad oedd wedi gallu defnyddio ei gardd a’i bod yn anniogel ers blynyddoedd. Cwynodd nad oedd Trivallis wedi gweithredu’n brydlon i roi sylw i’r problemau, hyd yn oed ar ôl iddynt wneud arolwg o’r safle a monitro’r problemau i ganfod pa waith oedd angen ei wneud. Yn olaf, cwynodd bod y rhan o’r ardd dan sylw oedd i gael ei lefelu’n rhy fychan a bod yr amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith angenrheidiol i’w galluogi i ddefnyddio ei gardd yn annerbyniol.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd Trivallis wedi rhoi sylw i bryderon Ms X am sawl blwyddyn, eu bod wedi oedi cyn dechrau ar y gwaith ar ôl penderfynu beth oedd angen ei wneud, ac nad oeddent wedi egluro pam eu bod yn bwriadu lefelu un rhan yn unig o’r ardd. Gofynnodd yr Ombwdsmon i Trivallis ymddiheuro i Ms X, talu £250 iddi am ei hamser a’r drafferth o fynd ati i gwyno ac i egluro wrthi pam na allai lefelu’r ardd gyfan, i gyd o fewn 1 mis. Gofynnodd yr Ombwdsmon i Trivallis gwblhau’r gwaith angenrheidiol, o fewn 2 fis. Cytunodd Trivallis i gymryd y camau hyn ac o ganlyniad ni chynhaliodd yr Ombwdsmon ymchwiliad.