Dyddiad yr Adroddiad

10/01/2025

Achos yn Erbyn

Trivallis

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202406673

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am yr oedi cyn i Trivallis wneud atgyweiriadau i’w chartref. Roedd hyn yn cynnwys oedi wrth fynd i’r afael â phroblem gyda’r rheiddiaduron yn yr eiddo, a hefyd gwneud gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio i’r ardd.

 

Canfu’r Ombwdsmon fod Trivallis i fod i wneud y gwaith ar y rheiddiaduron ym mis Rhagfyr 2023, ond ni aeth y gwaith yn ei flaen. Yn dilyn ei chwyn i’r Ombwdsmon, adroddodd Ms A am ddirywiad pellach i wal yr ardd gefn. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Cysylltodd yr Ombwdsmon â Trivallis ac i ddatrys cwyn Ms A cytunodd, o fewn wythnos, i ddechrau’r gwaith ar y rheiddiaduron a’r gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar yr ardd flaen a chefn. Hefyd, o fewn pythefnos, i ymddiheuro a chynnig swm o £100 i Ms A am yr oedi cyn gwneud gwaith ar y rheiddiaduron.