Cwynodd Mrs A oherwydd ei bod yn anfodlon gan nad oedd Cymdeithas Cymoedd i’r Arfordir wedi gwneud gwaith atgyweirio i’w heiddo, gan gynnwys addasu ei grisiau a gwaith rendro allanol.
Nododd yr Ombwdsmon, mewn cysylltiad â’r gwaith rendro allanol, fod gan Mrs A gŵyn agored heb ei datrys gyda’r Gymdeithas Dai. O ran gwaith i’r grisiau, roedd y Gymdeithas Dai wedi hysbysu Mrs A cyn hyn y gellid gwneud gwaith. Fodd bynnag, roedd y sefyllfa hon wedi newid, a rhoddodd y Gymdeithas Dai ei rhesymau dros beidio â gwneud y gwaith bellach. Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas Dai wedi ymddiheuro wrth Mrs A am ei hysbysu’n flaenorol y gellid gwneud gwaith i’r grisiau. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas Dai ymddiheuro wrth Mrs A am ddarparu camwybodaeth a rhoi diweddariad mewn cysylltiad â’i chŵyn ynglŷn â’r gwaith rendro cyn pen pythefnos. Cytunodd y Gymdeithas i wneud hyn.