Dyddiad yr Adroddiad

07/01/2025

Achos yn Erbyn

Tai Cymoedd i'r Arfordir

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202407145

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B nad oedd atgyweiriadau wedi’u gwneud i’w do, ar ôl codi’r mater i Tai Cymoedd i’r Arfordir (“y Gymdeithas Dai”). Yn ogystal â hyn, cwynodd nad oedd wedi cael ymateb boddhaol i’w gwynion.

 

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr B wedi codi nifer o geisiadau am wasanaeth i’r Gymdeithas Dai a bod oedi y gellid ei osgoi wrth ymdrin â’i gais.

 

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ar y sail y byddai’r Gymdeithas Dai o fewn 1 mis o gyhoeddi’r llythyr penderfyniad yn:

 

a) Ymddiheuro am yr oedi a’r diffyg gohebiaeth ynghylch atgyweiriadau.

b) Gwneud atgyweiriadau i atal y gollyngiad.

c) Talu iawndal o £300 am yr oedi y gellid ei osgoi, y diffyg cyfathrebu a’r anghyfleustra a achoswyd.