Dywedodd Mr A, lesddeiliad fflat o fewn yr adeilad sy’n eiddo i Tai Calon (‘yr HA’), ei fod wedi bod yn rhoi gwybod am ollyngiad o amgylch ei eiddo ers 3 blynedd. Dywedodd fod yr HA wedi anfon nifer o blymwyr a pheirianwyr allan, ond nad oedd y gollyngiad wedi’i ddatrys. Dywedodd Mr A fod difrod dŵr difrifol mewn sawl ystafell yn ei eiddo, a disgrifiodd ddŵr yn tywallt i lawr y grisiau yn ardal gymunedol yr adeilad.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gyda Mr A fod y gollyngiad bellach wedi’i ddatrys. Fodd bynnag, roedd achos Mr A a chwyn flaenorol a ymchwiliwyd gan yr Ombwdsmon wedi nodi diffygion gweinyddol ynghylch adrodd am ddiffygion atgyweirio. Cytunodd yr HA i gymryd y camau canlynol i ddatrys cwyn Mr A:
a) Ymddiheuro i Mr A am yr amser a gymerwyd i ddatrys y problemau atgyweirio.
b) Cynnig taliad iawndal ariannol o £250 i Mr A i gydnabod yr anawsterau a wynebodd Mr A wrth ddelio â’r HA ynghylch y mater, a’r diffyg dogfennaeth atgyweirio a achosodd oedi wrth wneud y gwaith atgyweirio.
c) Trefnu ymweliad gan Reolwr Gwasanaethau Eiddo’r HA ac aelod o’i Dîm Gwasanaeth Cwsmeriaid i drafod unrhyw bryderon pellach a allai fod gan Mr A.
d) Cytunodd yr HA i ddarparu tystiolaeth o:
(i) ei Strategaeth Ddigidol, sy’n cynnwys cynllun i integreiddio lesddeiliaid i’w system rheoli tai, ynghyd ag amserlen pryd y bydd hyn yn cael ei weithredu
(ii) adolygiad o’i brosesau cadw cofnodion, ochr yn ochr â chanllawiau statudol Rheoli Cofnodion Da’r Ombwdsmon, fel y cytunwyd mewn achos Ombwdsmon blaenorol.