Fe wnaethom ymchwilio i gŵyn gan Ms W ynghylch a oedd y Gymdeithas Dai wedi ymateb yn briodol i adroddiadau o leithder a llwydni yn ogystal â’r gwaith atgyweirio yr oedd angen ei wneud i’r ceblau trydan, a ph’un a oedd wedi rheoli’n briodol y gwaith dilynol o ail-weirio ei chartref.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd y Gymdeithas Dai wedi ymateb i gŵyn Ms W yn unol â’i pholisi cwynion. Gwelsom hefyd nad oedd gan y Gymdeithas Dai bolisi atgyweirio na chynnal a chadw.
Nid oedd y Gymdeithas Dai yn gallu darparu digon o dystiolaeth o’i hymdrechion i wneud gwaith atgyweirio ar eiddo Ms W. Nid oedd ychwaith yn gallu egluro’n ddigonol pam fod y gwaith atgyweirio wedi cymryd bron i 2 flynedd i’w gwblhau.
Felly, fe wnaethom gadarnhau cwyn Ms W ac wedi argymell bod y Gymdeithas Dai yn ysgrifennu at Ms W i ymddiheuro am y camweinyddu a nodwyd. Fe wnaethom argymell bod y Gymdeithas Dai yn talu iawndal ariannol o £250 am y ffordd wael yr ymdriniwyd â’r gŵyn a £500 am yr oedi a’r trallod yr oedd hyn wedi’i achosi. Ar ben hynny, fe wnaethom argymell bod y Gymdeithas Dai yn ad-dalu rhent Ms W o 16 Hydref 2024 ymlaen. Fe wnaethom hefyd argymell y dylai’r Gymdeithas Dai ddatblygu polisi atgyweirio a chynnal a chadw, a’i bod yn adolygu ei phroses rheoli cofnodion.