Dyddiad yr Adroddiad

24/01/2025

Achos yn Erbyn

Grwp Cynefin

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202405489

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am y ffordd yr oedd Grŵp Cynefin (“y Gymdeithas”) wedi ymateb i adroddiadau am ddŵr llonydd yn ei gardd. Dywedodd gan nad oedd y Gymdeithas wedi gwneud gwaith i wneud yr ardd yn ddiogel, ei bod wedi gwneud hynny ei hun ar gost ariannol sylweddol.

 

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas wedi ymateb yn brydlon i’r adroddiad a wnaed gan Mrs X, a phan ymwelodd swyddog o’r Gymdeithas â’i chartref, fe roddwyd gwybodaeth anghywir iddi. Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn bryderus nad oedd y Gymdeithas wedi rhoi ystyriaeth lawn i anghenion Mrs X a’i phlant wrth fynd i’r afael â’r mater hwn.

 

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Mrs X am yr oedi cyn ymateb iddi ac am roi gwybodaeth anghywir iddi, ac i gynnig taliad o £250 iddi. Cytunodd y Gymdeithas hefyd i gysylltu â Mrs X, a chynnig cynnal asesiad o’i hanghenion hi a’i phlant a gwneud unrhyw atgyfeiriadau angenrheidiol yn deillio o’r asesiad hwnnw. Cytunodd y Gymdeithas hefyd, pan fydd canlyniad yr asesiadau hynny’n hysbys, y byddai’n ailystyried gwneud cyfraniad rhesymol at y costau a ysgwyddwyd gan Mrs X wrth wneud gwaith ar ei gardd.