Cwynodd Mrs A am broblem draeniad sy’n codi dro ar ôl tro a achosodd i’w thŷ bach gael ei flocio. Dywedodd fod gwaith atgyweirio wedi cael ei wneud, a oedd yn cynnwys gosod plât ar dwll archwilio F12b, ond bod hyn wedi methu â datrys y broblem.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y gwaith trwsio a wnaed wedi rhoi sylw llawn i’r materion a brofodd Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb Ateb Group Ltd. y byddai, o fewn 4 wythnos, yn gwneud y canlynol:
1. Cysylltu â Mrs A i drafod y gwaith pellach fel yr argymhellwyd yn Adroddiad Gwasanaeth Deflo, dyddiedig 4 Chwefror 2025.
2. Yn dilyn y drafodaeth, darparu amserlen o’r gwaith arfaethedig i Mrs A, fel ei bod yn ymwybodol o’r gwaith sy’n cael ei wneud a phryd bydd y gwaith angenrheidiol yn cael ei gwblhau.
3. Cynnig taliad ex-gratia o £1,250 i Mrs A.