Dyddiad yr Adroddiad

06/01/2026

Achos yn Erbyn

Grŵp Ateb Cyf

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202502166

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd sied a ddarparwyd iddo gan Ateb Group Ltd, i wneud iawn am broblemau gwresogi blaenorol, wedi’i gosod yn gywir ac nad oedd wedi gallu defnyddio’r sied fel y bwriadwyd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod methiant yn y broses gyfathrebu rhwng y Gymdeithas Dai a Mr A, ac nad oedd y Gymdeithas Dai wedi egluro’n iawn beth y gallai’i ddarparu. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas Dai ysgrifennu at Mr A o fewn mis calendr i ymddiheuro am y diffyg cyfathrebu clir, ac i fynd i’r afael â materion eraill sydd heb eu datrys mewn perthynas â’r sied. Cytunodd y Gymdeithas Dai i wneud hynny.