Cwynodd Mr X am y cyflenwad gwresogi cymunedol a bod Cyngor Sir Ddinbych wedi ymgymryd â gwaith diweddar a arweiniodd at gostau ychwanegol.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi darparu ymateb Rhyddid Gwybodaeth i Mr X, roedd wedi anwybyddu rhoi ymateb ffurfiol i’w gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor, o fewn 3 wythnos, i ymddiheuro ac egluro’r esgeulustod wrth beidio â darparu ymateb i’w gŵyn, a chyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 2.