Cwynodd Mr C fod Cyngor Sir Ceredigion wedi gwrthod cytuno ar addasiadau a fyddai’n ei alluogi i barhau i fyw’n annibynnol yn ei gartref. Cwynodd ymhellach nad oedd y Cyngor wedi cymryd camau i gefnogi ei les pan nad oedd bellach yn gallu gadael ei gartref na mynd i’w ystafell ymolchi.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod Mr C wedi cysylltu â’r Cyngor ar sawl achlysur, nad oedd ei bryderon wedi’u hystyried o dan weithdrefn gwyno’r Cyngor. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i ymchwilio i gwynion Mr C a darparu ymateb o fewn 4 wythnos.