Cwynodd Ms A bod dŵr yn dod i mewn i’w heiddo, sy’n cael ei rentu oddi wrth Gyngor Sir Gâr (“y Cyngor”). Dywedodd, er iddi gwyno wrth y Cyngor, nad oedd y mater wedi’i ddatrys ac nad oedd y Cyngor wedi rhoi sylw llawn i’w chŵyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cyhoeddi ymateb cwyn Cam 2, nad oedd hyn wedi rhoi sylw llawn i’r materion yr oedd Ms A wedi’u codi, neu wedi rhoi sylw i’r canlyniadau yr oedd yn eu ceisio. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn 2 wythnos, yn anfon ymateb pellach at Ms A a ddylai fynd i’r afael â’r materion sy’n weddill.