Cwynodd Mr B fod gwaith a drefnwyd i adnewyddu ei lawr yn cael ei ganslo’n barhaus. Cwynodd ei fod wedi codi’r mater i ddechrau ym mis Chwefror 2024, ac wedi cysylltu â’r Cyngor sawl gwaith ers hynny.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mr B wedi cysylltu â’r Cyngor ar sawl achlysur a’i fod wedi bod heb lawr cymwys o 27 Mehefin tan 15 Tachwedd 2024.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ar y sail y bydd y Cyngor o fewn 1 mis o gyhoeddi’r llythyr penderfyniad yn:
- Ymddiheuro i Mr B am yr oedi cyn cwblhau’r gwaith a’r anghyfleustra a achoswyd drwy beidio â chael llawr rhwng 27 Mehefin a 15 Tachwedd 2024.
- Rhoi iawndal ariannol o £300 yn unol â’r polisi ar gyfer oedi wrth atgyweirio.