Cwynodd Ms A am y camau a gymerwyd gan y Cyngor i fynd i’r afael â’r gwaith atgyweirio oedd ei angen yn ei heiddo yn dilyn cwymp nenfwd ystafell wely. Er bod y Cyngor wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r gwaith oedd ei angen yn yr ystafell wely, cododd Ms A bryderon ynghylch diogelwch nenfydau eraill yn ei heiddo ac oedi i fynd i’r afael â hyn.
Canfu asesiad yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cymryd camau i archwilio a thrwsio nenfwd yr ystafell wely, bod oedi o ran nodi gwaith ychwanegol oedd ei angen i fynd i’r afael â’r gofynion ar gyfer nenfwd yr ystafell ymolchi. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y gallai hyn fod wedi tarfu’n ddiangen. Nid oedd Ms A wedi derbyn ymateb llawn, gan gynnwys esboniad ac ymddiheuriad, gan y Cyngor am yr oedi hwn.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor gymryd y camau canlynol, o fewn 4 wythnos, yn lle cynnal ymchwiliad ffurfio, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny:
• Rhoi ymateb llawn ac ymddiheuriad i Ms A am yr oedi o ran nodi a gweithredu ar y gwaith oedd ei angen ar nenfwd yr ystafell ymolchi.
• Gwneud taliad iawndal o £250 i Ms A am yr oedi wrth gymryd camau i fynd i’r afael â’r holl waith atgyweirio oedd ei angen a’r tarfu ychwanegol a achoswyd gan hyn.