Dyddiad yr Adroddiad

15/12/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202506937

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Caerdydd wedi cwblhau gwaith atgyweirio yn ei fflat.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y bu oedi y gellid bod wedi’i osgoi cyn trwsio popty Mr A, a phenderfynwyd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ac egluro’r sefyllfa o fewn 7 diwrnod, gan gynnwys ymddiheuriad am yr oedi a darparu ymrwymiad clir i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr A am y cynnydd o ran atgyweirio’r popty.