Dyddiad yr Adroddiad

03/07/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202500760

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss B am y camau a gymerwyd gan Gyngor Caerdydd i fynd i’r afael â gwaith atgyweirio roedd angen ei wneud yn ei chartref. Cwynodd hefyd am faterion yn ymwneud â chyfathrebu am apwyntiadau i wneud y gwaith.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r gwaith yr oedd angen ei wneud, ond bod y problemau yn bodoli ers cyfnod hir ac nad oedd Miss B wedi cael cynllun clir ar gyfer cwblhau’r gwaith. Yn ogystal, roedd Miss B yn parhau’n aneglur ynglŷn â sut y byddai’n cael gwybod am apwyntiadau i gwblhau gwaith yn ei chartref.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, cyn pen 4 wythnos, roi amlinelliad ysgrifenedig i Miss B o’r gwaith a gwblhawyd yn yr eiddo dros y 12 mis diwethaf. Cytunodd y Cyngor i wneud hyn. Yn ogystal, cytunodd i roi cynllun ysgrifenedig i Miss B ar gyfer unrhyw waith arall y nodwyd bod ei angen, a phryd y byddai’r gwaith hwn yn cael ei wneud, gan gynnwys cadarnhad bod problemau lleithder a llwydni wedi’u datrys. Cytunodd y Cyngor hefyd i roi gwybodaeth i Miss B am y gwahanol opsiynau sydd ar gael er mwyn cyfathrebu â’r Cyngor neu Gontractwyr ynglŷn ag unrhyw waith y bydd angen ei wneud yn y dyfodol.