Dyddiad yr Adroddiad

20/05/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202409534

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Mr A gwyno am y camau a gymerwyd gan Gyngor Caerdydd i fynd i’r afael â phroblemau a oedd yn ymwneud â phlâu o eiddo cyfagos a osodir gan y Cyngor. Dywedodd Mr A fod y problemau hyn wedi bod yn mynd rhagddynt ers mis Tachwedd 2022, ac na chafodd sicrwydd bod gwaith dilynol digonol wedi’i gwblhau na’i gynllunio. Mynegodd bryderon ei fod wedi talu i waith gael ei gwblhau i geisio datrys y problemau oherwydd hyd yr amser a gymerodd i’r Cyngor gymryd y camau gofynnol.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cwblhau peth gwaith, nad oedd wedi datrys y problemau yn yr eiddo yn llwyr. Er bod gwaith yn mynd rhagddo, nid oedd yn ymddangos bod cynllun gweithredu yn ei le i sicrhau bod y problemau rheoli plâu yn cael eu datrys yn llwyr. Ni fu i’r Cyngor ddangos ei fod wedi darparu i Mr A yr holl wybodaeth am sut i hawlio iawndal. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y g?yn heb ymchwilio.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor gytuno i gynnal ymchwiliad dilynol llawn i sicrhau bod yr holl waith gofynnol i reoli plâu yn yr eiddo a osodir gan y Cyngor yn cael ei gwblhau. Cytunodd y Cyngor i wneud hyn. Ar ôl hyn, cyn pen pedair wythnos, bydd yn darparu i Mr A ymateb yn amlinellu canfyddiadau’r ymchwiliad dilynol a chynllun os bwriedir cymryd unrhyw gamau pellach. Yn ogystal, cytunodd y Cyngor i ddarparu i Mr A yr wybodaeth am sut i hawlio iawndal.