Cwynodd Ms A nad oedd Cyngor Caerdydd wedi trwsio nam yn nho’r bloc fflatiau lle’r oedd yn byw fel lesddeiliad, a bod hynny wedi achosi difrod y tu mewn i’w heiddo.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cwblhau’r gwaith i drwsio’r to, ond nad oedd wedi hysbysu Ms A. Fodd bynnag, nid oedd wedi datrys y difrod mewnol i eiddo Ms A, a oedd wedi golygu na allai ddefnyddio un o’r ystafelloedd gwely, na’r golau yn y gegin am gyfnod hir. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai o fewn 2 wythnos yn ysgrifennu at Ms A gan nodi pa ddyfynbrisiau fyddai angen iddi eu cael, i ble fyddai angen iddi eu hanfon, a thalu iawndal o £500 iddi. O fewn 2 wythnos ar ôl cael y dyfynbrisiau byddai’r Cyngor yn cytuno ar gost y gwaith, neu pe byddai’r Cyngor yn penderfynu nad oedd yn mynd i dalu’r gost byddai’n ysgrifennu at Ms A yn egluro’r rhesymau’n glir.