Cwynodd Miss A am y camau a gymerwyd gan y Cyngor i fynd i’r afael â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw sydd ei angen ar ei heiddo, yn benodol, i fynd i’r afael â phroblemau gyda’r drws ffrynt a’r ffenestri.
Canfu’r Ombwdsmon y bu rhywfaint o oedi gyda’r camau a gymerwyd gan y Cyngor i fynd i’r afael â’r materion a adroddwyd. Roedd o’r farn bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss A. Er bod drws newydd wedi’i ddarparu, adroddodd Miss A am broblemau gydag ef, ac roedd yn ansicr ynghylch y camau a gynlluniwyd i fynd i’r afael â hyn. Roedd y Cyngor wedi bwriadu ymchwilio i bryderon ynghylch y ffenestri yn yr eiddo, ond nid oedd wedi cadarnhau camau gweithredu i fynd i’r afael â hyn eto. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon am gytundeb y Cyngor, o fewn 3 wythnos, i gwblhau’r camau angenrheidiol i ymchwilio i’r problemau gyda’r drysau a’r ffenestri yn yr eiddo, a darparu cynllun gweithredu ar gyfer mynd i’r afael ag unrhyw faterion a nodwyd. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r holl waith angenrheidiol i’r drws ffrynt a’r ffenestri o fewn 6 wythnos.