Cwynodd Mr X fod Cyngor Bro Morgannwg wedi methu ag ymateb a chymryd camau priodol i atgyweirio pibell ddraenio a leinin plwm i eiddo’r Cyngor uwchben ei fflat deulawr, a dywedodd fod hyn wedi arwain at ddŵr yn dod i mewn a difrod i’w eiddo.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Cyngor wedi methu â chofnodi cwyn Mr X yn gywir, ac nad oedd wedi cymryd unrhyw gamau i unioni’r sefyllfa. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i roi ymateb i gŵyn i Mr X o fewn 3 wythnos. Dylai’r ymateb gynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi wrth logio ac ymdrin â’r gwaith atgyweirio. Cytunodd y Cyngor hefyd i gynnig taliad iawndal o £100 i Mr X i gydnabod ei amser a’i drafferth yn cysylltu â’r Ombwdsmon.