Cwynodd Mr A am ollyngiad yn ei eiddo. Dywedodd fod Cyngor Bro Morgannwg (“y Cyngor”) wedi methu â gwneud yr holl waith atgyweirio angenrheidiol.
Nododd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi dechrau gwneud gwaith atgyweirio, ond nad oedd wedi datrys yr holl broblemau a brofodd Mr A yn llawn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai’n cwrdd â Mr A o fewn 4 wythnos i archwilio’r ystafell wlyb a nodi unrhyw faterion sy’n weddill; darparu amserlen i Mr A o’r gwaith arfaethedig; gwybodaeth am sut i gyflwyno hawliad am iawndal; ac ymateb i gŵyn Mr A.