Cwynodd Mrs A fod ei landlord, Cyngor Abertawe, wedi oedi cyn ymateb i adroddiadau o lwydni yn ei heiddo. Fe wnaeth ymchwiliad yr Ombwdsmon ystyried a oedd y Cyngor wedi ymchwilio’n briodol i’r adroddiadau o damprwydd rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2022.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn. Ni chwblhawyd gwaith atgyweirio sylweddol i atal tamprwydd a nodwyd ar 28 Ionawr mewn modd amserol. Ni chafwyd unrhyw gamau dilynol nac arolygiad pellach tan 19 Hydref pan oedd Mrs A eisoes wedi gwneud cwyn ffurfiol i’r Cyngor ac wedi’i huwchgyfeirio. Roedd yr oedi hwn yn anghyfiawnder i Mrs A. Cadarnhaodd y Cyngor, ers y digwyddiadau uchod, ei fod wedi gweithredu system atgyweirio wahanol felly ni ddylai’r math yma o oedi cyn trwsio ddigwydd eto. Cytunodd hefyd i ymddiheuro i Mrs A am yr oedi cyn cymryd camau i gwblhau’r gwaith trwsio tamprwydd a thalu iawndal o £500 iddi.