Cwynodd Miss X fod Cymdeithas Dai Unedig Cymru wedi methu â datrys atgyweiriadau yn ei chartref.
Canfu’r Ombwdsmon fod Miss X wedi cwyno wrth y Gymdeithas ym mis Ebrill 2025, serch hynny, methodd â rhoi ymateb i gŵyn Miss X. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas, o fewn 2 wythnos, i ymddiheuro ac egluro’r oedi, cyhoeddi ymateb i gŵyn cam 2, a chynnig swm gwneud iawn o £100 am yr oedi ac am ei hamser a’r drafferth o orfod gwneud cwyn i’r Ombwdsmon.