Dyddiad yr Adroddiad

13/05/2025

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Unedig Cymru

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202500438

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Miss T gwyno bod Cymdeithas Dai United Welsh wedi methu ag ymateb i’w chais i gael rheiddiadur dwbl yn ei hystafell wlyb.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi methu â chyfathrebu’n effeithiol â Miss T a’i heiriolwr. Dywedodd fod hyn wedi peri ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss T. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas gytuno i fynd ati cyn pen pythefnos i ddarparu i Miss T ymddiheuriad ysgrifenedig am fethu ag ymateb i negeseuon e-bost ei heiriolwyr, ac i ymateb i’w chais i gael rheiddiadur dwbl. Cytunodd y Gymdeithas i wneud y pethau hyn.