Dyddiad yr Adroddiad

23/12/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Linc Cymru

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202405211

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B fod y Gymdeithas wedi gwneud gwaith ar ei gegin a oedd yn is na’r safon ac nad oedd yn diwallu ei anghenion, ac nad oedd wedyn wedi cyflawni ei dyletswydd i osod cegin newydd wedi’i haddasu ar gyfer pobl anabl erbyn y dyddiad cwblhau targed.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd gan Mr B gyfleusterau cegin digonol am sawl mis a bod cyfathrebu’n ymddangos yn ddiffygiol ar brydiau.
Cytunodd y Gymdeithas i ymddiheuro i Mr B am ei fethiant a thalu iawndal o £500 iddo i gydnabod effaith yr oedi, yn enwedig o ystyried ei anableddau. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau yr oedd y Gymdeithas wedi cytuno i’w cymryd yn rhesymol a bod y mater wedi’i setlo. Byddai Mr B yn gallu dychwelyd at yr Ombwdsmon pe na bai’r Gymdeithas yn cydymffurfio â’r setliad y cytunwyd arno.