Dyddiad yr Adroddiad

24/10/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202404802

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Cymdeithas Tai Hafod wedi methu â datrys problem gyda wal wedi cracio yn ei gardd. Dywedodd fod y wal wedi cael ei harchwilio gan syrfëwr ym mis Awst ond nad oedd hi wedi derbyn unrhyw gyswllt pellach gan y Gymdeithas.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod gan y Gymdeithas i gywiro’r broblem a chwblhau’r gwaith a oedd ei angen ar y wal. Dywedodd fod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Ms A a rhoi iawndal o £50 iddi i gydnabod yr oedi. Cytunodd y Gymdeithas hefyd, o fewn 3 wythnos, y byddai’n rhoi ymateb ysgrifenedig i Ms A yn nodi’r camau y bydd yn eu cymryd i ddatrys y broblem gyda’r wal.