Cwynodd Mrs C bod Cymdeithas Tai Hafod wedi methu cwblhau gwaith atgyweirio ac addasu i’w heiddo, a’i bod wedi gorfod adrodd dro ar ôl tro am y problemau gyda’i phatio, ei drysau, ei chegin a’i thoiledau. Dywedodd Mrs C fod y sefyllfa wedi effeithio’n ddifrifol ar ei hiechyd meddwl.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er y bu oedi, bod y Gymdeithas Tai wedi cwblhau rhywfaint o’r gwaith. Un mater a oedd yn weddill oedd atgyweirio tap allanol yr eiddo. Dywedodd Mrs C ei bod angen gallu defnyddio’r tap er mwyn gallu cadw’r ardd yn ddiogel iddi hi ei ddefnyddio. Dywedodd y Gymdeithas Tai nad oeddent yn gyfrifol am yr atgyweiriad, ond nid oeddent wedi gallu darparu dogfennau i brofi hynny. I gydnabod y methiant hwn, roedd y Gymdeithas Tai wedi cwblhau’r gwaith o atgyweirio’r tap. Cadarnhaodd hefyd eu bod yn y broses o ganfod contractwr i osod system dŵr llwyd newydd, ac oherwydd bod Mrs C yn parhau i bryderu ynghylch cyflwr patio, drysau a chegin yr eiddo, roeddent wedi trefnu i gwblhau arolwg llawn o gyflwr stoc yr eiddo. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai i ymddiheuro i Mrs C ei bod wedi gorfod cysylltu â’r Ombwdsmon, cwblhau’r arolwg o gyflwr y stoc a chadarnhau yn ysgrifenedig ganlyniadau ac amserlenni unrhyw waith neu waith atgyweirio a nodwyd, a darparu diweddariad ar y system dŵr llwyd, o fewn 2 wythnos.