Dyddiad yr Adroddiad

15/01/2025

Achos yn Erbyn

Barcud

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202406283

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr C fod Barcud wedi methu â chynnal ei lifft grisiau, a’i fod wedi gwrthod yn amhriodol i wneud addasiadau pellach i’w eiddo.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw gamweinyddu yn y ffordd yr oedd y Gymdeithas Tai wedi ystyried cais Mr C am addasiadau pellach, ond nad oedd wedi ymateb yn ffurfiol i’w gwynion ynghylch cynnal a chadw ei lifft grisiau. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Gymdeithas Tai i ymchwilio i gŵyn Mr C ynghylch cynnal a chadw’r lifft grisiau, a darparu ymateb o fewn 4 wythnos.