Cwynodd Mr X bod Adra wedi methu atgyweirio’r drafft a oedd yn dod o’i ffenestri.
Canfu’r Ombwdsmon bod Mr X wedi cwyno i’r Gymdeithas ym mis Ionawr 2025. Fodd bynnag, roedd y Gymdeithas wedi methu darparu ymateb i’r gŵyn. Dywedodd bod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i gynnig ymddiheuriad i Mr X, o fewn 2 wythnos, am yr esgeulustod o beidio â darparu ymateb i’r gŵyn, cyhoeddi ymateb cam 1 a chynnig iawndal o £100 am yr esgeulustod ac am ei amser a’i drafferth yn gwneud cwyn i’r Ombwdsmon.