Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn fod Aelod (“yr Aelod”) o’r Cyngor wedi torri’r Cod Ymddygiad. Ar adeg y digwyddiadau y cwynwyd amdanynt, roedd yr Achwynydd hefyd yn Aelod o’r Cyngor. Honnodd fod yr Aelod, cyn cyfarfod o’r Cyngor, wedi rhannu copi o adroddiad ymchwiliad blaenorol yr Ombwdsmon yn ei erbyn ef gyda Chynghorwyr eraill, a’i fod wedi dweud wrthynt ei fod yn dymuno i’r Cyngor dalu am gyngor cyfreithiol mewn perthynas â materion yn gysylltiedig â’r adroddiad hwnnw. Dealltwriaeth yr Achwynydd oedd, pe bai’r cyngor cyfreithiol yn cefnogi barn yr Aelod, y byddai hyn yn cael ei ddefnyddio i herio canfyddiadau’r adroddiad hwnnw. Dywedodd yr Achwynydd ei bod, pan ofynnodd yr Aelod wedyn am yr arian hwn yn ystod cyfarfod y Cyngor, wedi gwrthwynebu ar y sail nad oedd yn credu ei bod yn briodol gwario arian y Cyngor ar gael cyngor cyfreithiol preifat i unigolyn, ac roedd, diwrnod canlynol, wedi ymddiswyddo.
Cododd yr Achwynydd nifer o bryderon ychwanegol hefyd ynghylch sut oedd yr Aelod wedi ymddwyn yn ei swydd fel Cadeirydd y Cyngor. Ar eu pen eu hunain, roedd y materion ychwanegol a godwyd gan yr Achwynydd, er eu bod o bosib yn peri pryder, naill ai y tu allan i awdurdodaeth yr Ombwdsmon (yn ymwneud â materion cyflogaeth, neu lywodraethiant y Cyngor), neu nid oeddent yn ddigon difrifol i gael eu hystyried yn achos o dorri’r Cod ac yn werth ymchwilio iddynt. Fodd bynnag, cawsant eu hystyried fel cyd-destun i bryder yr Achwynydd nad digwyddiad unigol oedd y oedd y cyllid arfaethedig ar gyfer cyngor cyfreithiol. Er i ymdrechion gael eu gwneud i gael rhagor o dystiolaeth am y mater hwnnw, ni fu’r rhain yn llwyddiannus. Er ei bod yn ymddangos bod y cyfarfod wedi’i recordio, nid oedd modd cael gafael ar y recordiad, nid oedd manylion am y cais yng nghofnodion y cyfarfod perthnasol, ac er bod rhywfaint o dystiolaeth bod taliadau wedi’u gwneud i’r Aelod tua’r adeg hon, ni allai’r Cyngor ddarparu unrhyw fanylion yn cadarnhau beth oedd pwrpas y rhain. Cadarnhaodd Archwilio Cymru nad oedd y Cyngor wedi cyflwyno ei archwiliadau ar gyfer y blynyddoedd perthnasol.
O ystyried bod diffyg tystiolaeth sylweddol ar gael, heb unrhyw arwydd y byddai digon o dystiolaeth ar gael i’r swyddfa hon yn y dyfodol agos, nid ystyriwyd ei bod yn gymesur parhau â’r ymchwiliad, ac felly daeth yr ymchwiliad i ben.