Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Cwm Ogwr (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad (“y Cod”). Honnwyd bod yr Aelod wedi gweithredu ar ran y Cyngor heb gymeradwyaeth na chydsyniad wrth fwrw ymlaen â chais am gyllid grant.
Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a allai ymddygiad yr Aelod fod wedi torri amodau paragraffau 6(1)(a), 7(a) a 7(b) o’r Cod. Cafwyd gwybodaeth, gan gynnwys cofnodion perthnasol a gohebiaeth, gan y Cyngor. Cafodd y tystion, gan gynnwys yr Achwynydd, eu cyfweld.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod yr Aelod wedi cymryd camau i fynd ar drywydd cais am grant ar ran y Cyngor, a bwrw ymlaen â hyn heb iddo wybod, awdurdodi na chydsynio. Canfu’r Ombwdsmon y gall ymddygiad yr Aelod, ar y cyfan, awgrymu ei fod wedi torri amodau paragraff 7(a) o’r Cod. Canfu’r ymchwiliad nad oedd unrhyw dystiolaeth bod yr Aelod wedi ceisio mantais bersonol nac wedi ceisio elwa’n bersonol. Ar ben hynny, ni ryddhawyd arian y grant. Felly, ni chafodd yr Ombwdsmon ei argyhoeddi bod tystiolaeth i awgrymu bod amodau paragraff 7(a) o’r Cod wedi’u torri. Er bod ymddygiad yr Aelod wedi effeithio ar ei enw da personol yn y Cyngor, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod ymddygiad yr Aelod yn debygol o fod wedi dwyn anfri ar y Cyngor na’i rôl fel aelod. Felly, ni chafodd yr Ombwdsmon ei argyhoeddi bod yr ymddygiad yn awgrymu bod Paragraff 6(1)(a) o’r Cod wedi’i dorri.
Wrth ystyried a oedd angen cymryd camau pellach er budd y cyhoedd, roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd arian y grant wedi’i ryddhau, ac nad oedd y Cyngor wedi ymrwymo i unrhyw gontract na chytundeb. Adeg y digwyddiadau dan sylw, roedd yr Aelod yn ddibrofiad ac nid oedd wedi cael hyfforddiant ar y Cod. Hefyd, roedd gan yr Aelod amgylchiadau personol lliniarol sylweddol. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o golled ariannol o ganlyniad i’r ymddygiad. Yn arwyddocaol, nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod yr Aelod wedi cael budd personol, nac wedi ceisio cael budd, o’r cais am grant na’r prosiect.
Ar ôl pwyso a mesur y ffactorau perthnasol er budd y cyhoedd, nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn ei bod yn gymesur, nac er budd y cyhoedd, i gymryd unrhyw gamau pellach. Wedi dweud hynny, argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Aelod ymgyfarwyddo â Rheolau Sefydlog a threfniadau llywodraethiant y Cyngor ac ymgymryd â hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad, i sicrhau ei fod yn deall ei rôl a’i gylch gwaith fel aelod o’r Cyngor. Ar ben hynny, bydd y penderfyniad yn cael ei gadw ar gofnod ac yn cael ei ystyried os bydd unrhyw gwynion am yr Aelod yn y dyfodol.