Cwynodd Mr a Mrs X am asesiad Cyngor Sir y Fflint o’u hanghenion gofal.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â delio’n iawn gyda chŵyn Mr a Mrs X yn unol â gweithdrefn gwyno statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, a dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn yn gwadu hawl Mr a Mrs X i gael eu cwyn wedi’i hymchwilio’n annibynnol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr a Mrs X am fethu â delio â’u cŵyn yn unol â’i rwymedigaethau statudol ac i benodi Ymchwilydd Annibynnol i ymchwilio i gŵyn Mr a Mrs X o fewn 4 wythnos.