Dyddiad yr Adroddiad

08/05/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Asesiad Gofal Cymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202409040

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Miss A gwyno am ei bod yn anfodlon â’r camau a gymerwyd gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”). Dywedodd Miss A nad oedd yr wybodaeth yn asesiadau llesiant ei phlant yn gywir.

Bu i’r Ombwdsmon ystyried ymateb y Cyngor i’r gŵyn, ymateb a oedd yn gwahodd Miss A i gyflwyno mwy o wybodaeth am y rhannau o’r asesiadau llesiant a oedd yn anghywir yn ei thyb hi. Bu i’r Cyngor gadarnhau bod Miss A wedi cyflwyno mwy o wybodaeth ym mis Chwefror 2025, ond nad oedd wedi ymateb. Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai Miss A gael ymateb i’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd ganddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor fynd ati cyn pen mis i ymddiheuro i Miss A am yr oedi cyn ymateb i’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd ganddi ac i ymateb i’r wybodaeth honno. Cytunodd y Cyngor i wneud y pethau hyn.